Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2018
Amser:
08.30 -
09.22
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 7 Chwefror 2018
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio trafodaethau ar y papur tra bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i thrafodaethau gyda Thrysorlys y DU. Cytunodd Arweinydd y Tŷ y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn dod i benderfyniad ar y weithdrefn.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth lunio nodyn o drafodaethau a meysydd posibl i gytuno arnynt erbyn yr wythnos nesaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod adolygiad ehangach gyda'u grwpiau.
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur, yng nghyd-destun trafodaethau ar eitem 5.1.
Mandy Jones
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai Mandy Jones yn cael cynnig lle ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a bod cynnig i'r perwyl hwnnw yn cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.